Pontypool Museum - Amgueddfa Pont-y-pwl

Aelodaeth i’r Ymddiriedolaeth

Byddai diddordeb gennych mewn ymuno fel aelod?
Mae gan Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen aelodaeth lwyddiannus ac mae’n cynnig amrywiaeth o fuddion i’w aelodau, gyda chynlluniau i drefnu mwy o ddarlithiau a digwyddiadau i aelodau yn y dyfodol.

Mae Buddion yn cynnwys::

  • Mynediad am ddim
  • Disgownt o 10% ar rhai eitemau yn y siop
  • Gwahoddiadau i lansiadau a chipolygon preifat
  • Mynediad i’r arddangosiad gwerthu Celf a Chrefft Aelodau Blynyddol – Celfyddyd y Gaeaf
  • Rhaglen o Ddarlithiau i Aelodau
  • Copiau o gyhoeddiadau’r ymddiriedolaeth am ddim

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gwneud cais am Rodd Cymorth - yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r llywodraeth wedi codi rhai cyfyngiadau penodol sydd nawr yn ein galluogi i redeg y Cynllun Rhodd Cymorth yn haws. Mae dyfarniadau newydd yn meddwl ein bod yn gallu ceisio am ad-daliad treth o 28c ar bob £1 o’r tanysgrifiadau rydym yn derbyn trwy’r cynllun aelodaeth, ar roddion a thrwy ein taliadau mynediad cyffredinol o ymwelwyr - y cyfyngiad yw 'gan dalwyr treth y D.U. yn unig'.

Isod mae ein ffurflen Aelodaeth gyffredinol. Os hoffech chi ymuno, lawrlwythwch a phrintiwch e. Llenwch eich manylion i mewn, gan gynnwys os ydych yn talu treth yn y D.U. ac anfonwch e i ni gyda siec neu ymholiad am Orchymyn Archeb Sefydlog. Byddem yn eich cofrestri fel aelod ac yn ymateb mor gynted â phosibl.

--------------------------------------------------------------------------------------------

Ffurflen Aelodaeth

YMDDIRIEDOLAETH AMGUEDDFA TORFAEN– TANYSGRIFIAD AELODAETH

Hoffwn adnewyddu fy Nhanysgrifiad Aelodaeth

Enw...................................................................................

Cyfeiriad.............................................................................
.........................................................................................

Cod Post................... Rhif Ffon ..........................................

Ticiwch y cyfanswm cywir ac amgaewch daliad

  • Aelodaeth Unigol: £10........
  • Aelodaeth Teulu: £15....
  • Aelodaeth Gorfforedig £50....
  • Hoffwn ymroddi cyfanswm o £....
  • Rwy’n talu NEU hoffwn i dalu trwy Archeb Sefydlog: ticiwch.........

Os ydych yn gymwys arwyddwch isod os gwelwch yn dda YDW – Rwy’n trethdalwr yn y D.U. ............

--------------------------------------------------------------------------------------------

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Cysylltwch â ni am fanylion pellach!