Llyfrgell Dobell-Moseley
Mae Llyfrgell Dobell-Moseley wedi’i redeg gan wirfoddolwyr i ddarparu cyfeiriad ac ymchwil ac i ymateb ymholiadau gan y cyhoedd. Mae’r cyfleuster hwn, wedi ei leoli yn adeilad Amgueddfa Pont-y-pŵl. Yn cynnwys archif Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen ac adnoddau eraill gan gynnwys:
- effemera, erthyglau & siwrnalau sy’n berthnasol i Gwm Torfaen
- dogfennau
- posteri
- mapiau a chynlluniau
- papurau newydd lleol
- llyfrau sy’n berthnasol i’r ardal a phobl leol, neu sydd wedi eu hysgrifennu gan awduron lleol. `
- casgliad ffotograffau eang
Yn ddiweddar mae’r llyfrgell wedi dechrau rhaglen o gasglu llyfrau, papurau a siwrnalau sy’n berthnasol i museology, yn ogystal ag arweinlyfrau a mentrau, tapiau fideo a sain (yn cynnwys recordiau hanesyddol llafar).
Gall ymholiadau, chwiliadau a gwybodaeth gyffredinol cael eu hymchwilio gan wirfoddolwyr ar ardal Blaenafon - Pont-y-pŵl - Cwmbrân ac mae’r llyfrgell hefyd ar gael i unrhyw ymchwiliwr trwy apwyntiad ar yr amseroedd sydd wedi eu rhestri isod:
Amseroedd Agor y Llyfrgell
Dydd Mawrth 10 - 4
Dydd Iau 10 - 4