Addysg a Dysgu Gydol Oes
Newydd i 2008/09 - Pecynnau Sialens
Ar gyfer ysgolion a grwpiau dysgu oedolion iw ddefnyddio i ychwanegu at eich cyfweliad i'r amgueddfa ac oriel.
1. Pecynnau Sialens Hanesyddol – yn cynnwys tudalennau gweithgareddau a all gael ei photogopio (ar CD hefyd iw ddefnyddio ar y bwrdd gwyn), yn delio gyda amrywieath o bynciau sydd ar ddangos yn yr orielau, yn cynnwys teuluoedd y meistri haearn ai gweision or 16ed ir 20fed ganrif, masnach a diwydiant lleol or amser Fictoraidd hyd at heddiw, ac ein arddangosfa arbenig o offerynau cerddorol ledled y byd.
2. Pecynnau Sialens Celf & Hanes – yn cynnwys tudalennau gweithgareddau a all gael ei photogopio (ar CD hefyd iw ddefnyddio ar y bwrdd gwyn), yn delio gyda teulu enwog Pontypwl, y teulu Barker o celfyddwyr a crewyr nwyddau Japan. Mae'r pecyn yn cynnwys nodiadau llawn i athrawon.
- Maer's pecynnau yma wedi ei paratoi i ddilyn y cwriwcwlwm cenedlaethol ac mae'n nhw'n medru gwneud eich ymweliad yn fwy diddorol ac addysgol
- Pris y pecynnau yw £10 yr un yn cynnwys CD ac mae nhw ar gael yn gymraeg, saesneg neu'n ddwy iaethog.(+ post & pecyn )
- Pris grwpiau o ymwelwyr yw £1 i bob dysgybl, a'r oedolion yn rhad ac am ddim, (1 oedolyn i bob 7 dysgybl).
Gweithdai Hanes
Mae Amgueddfa Pont-y-pŵl yn cynnig gweithdai ar gyfer Hanes Cyfnod Allweddol 1 a 2
Cyfnod Allweddol 1
1. Teganau yn y gorffennol: Mae’r gweithdy yn dechrau gyda chyflwyniad byr i ffyrdd o fyw gwahanol y gorffennol i ddangos y gwahaniaethau rhwng teganau masnachol a rhai o waith cartref. Mae nifer o wahanol fathau o deganau replica ('cat and batty', cylchynau, cwpan a phêl, marblys ac ati.) ar gael i chwarae â nhw, yn ogystal â gemau traddodiadol fel bwrdd nadroedd ac ysgolion enfawr.
Nifer mwyaf mewn grŵp yw tua 45 ddim yn cynnwys oedolion. (1 oedolyn i bob 7 dysgybl)
Cyfnod Allweddol 1 & 2
Cartrefi yn y gorffennol: (Cyfnod Allweddol 1)
Mae Cartrefi yn y gorffennol yn rhoi siawns anghyffredin i blant i weld a thrin gwrthrychau cartref o’r gorffennol o offer golchi traddodiadol i haearnau smwddio gwastad a hen setiau radio. Mae’r gwrthrychau’n dod o gasgliadau’r amgueddfa sydd wedi eu lleoli mewn stabl a cherbyty Georgaidd (1830au), a adeiladwyd gan y teulu Hanbury.
Cartrefi yn y gorffennol: (Cyfnod Allweddol 2)
Yn cynnwys: Cegin, Cartref, Tai a dodrefn. Mae’r gweithdy yn cynnwys dangosiad manwl o wahanol ffyrdd o fyw yn y gorffennol gan ddefnyddio eitemau o’r gartref. Mae’r plant yn cael siawns i drin ac adnabyddi, mewn ffordd gêm, amrywiaeth o eitemau cartref o’r gorffennol.
Nifer mwyaf mewn grŵp tua 40 ddim yn cynnwys oedolion. (1 oedolyn i bob 7 dysgybl)
Keystage 2
Nifer mwyaf mewn grŵp tua 40 ddim yn cynnwys oedolion. (1 oedolyn i bob 7 dysgybl)
Pris y gweithdai yw £3 i ddisgyblion, oedolion yn rhad ac am ddim.
Y nifer lleiaf mewn grŵp yw 20, gyda lleiafswm o 2 oedolyn. Mae cyfleusterau toiled, siop a chaffi yn yr amgueddfa.
Gweithdai Celf
I ysgolion a Grwpiau Dysgu Oedolion
Gwaith Japan ac addurno
Cyssylltwch a ni i ddarganfod mwy am ein gweithdai eraill.
I FWCIO GWEITHDY FFONIWCH YR AMGUEDDFA AR
01495 752036 NEU FFACS: 01495 752043