Pontypool Museum - Amgueddfa Pont-y-pwl

Y Casgliadau

Mae’r amgueddfa yn casglu eitemau o hanes, archeoleg, daeareg, hanesion cymunedol a diwydiannol, celf, crefft ac ecoleg Cwm Torfaen (Cwm mwyaf dwyreiniol De Cymru sy’n cynnwys trefi Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân).

Mae’r Casgliadau’n cynnwys:

  • Nwyddau domestig yr 18fed - 20fed ganrif megis tybiau ymolchi, doliau, manglau, haearnau, peiriannau ac ategolion gwnïo, teganau a gemau.
  • Dewis o gelfyddydau addurnol, yn cynnwys Japanware enwog Pont-y-pŵl a Brynbuga, nwyddau a dodrefn coffaol lleol gan gynnwys nifer o’r cadeiriau Baker sy’n enwog yn lleol.
  • Clociau Vaughan Pont-y-pŵl
  • Eitemau diwydiannol lleol o gloddio, cynhyrchiad mwyn haearn, ffurfiad gwydr a dur i bethau cofiadwy o safle B.N.S/I.C.I/Dupont SA, Pont-y-pŵl.
  • Eitemau tân, meddygol, cyfreithiol a milwrol, eitemau addysgol, trafnidiaeth masnach, adeiladu, swyddfa, cerddoriaeth, crefyddol a hamddenol.
  • Mae casgliad celfyddyd gain gan yr amgueddfa gyda darluniau o’r 18fed a 19eg ganrif yn cynnwys gwaith gan Benjamin a Thomas Barker a 2 portread gan arlunydd rhyfel Eric Kennington.

Display of domestic wares  Collection photo 1
Collection photo 2  The Woodman by Thomas Barker  Collection photo 3

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales