Pontypool Museum - Amgueddfa Pont-y-pwl

Amgueddfa Pont-y-pŵl

Croeso i amgueddfa Pont-y-pŵl! Wedi ei osod mewn stabl Georgaidd, gyda chwrt canolig, mae’r fynedfa fwaog carreg a llwybr cobls yn rhoi awyrgylch rhyfeddol i ddechrau eich ymweliad!

Pontypool MuseumMae’r Amgueddfa yn gartref i gasgliad o arteffactau lleol gydag arddangosfa ragorol o Japanware, a gynhyrchwyd yn y dref ers canol y deunawfed ganrif. Dysgwch mwy am Barc Pont-y-pŵl a myfyriwch ar y casgliad diddorol iawn o ‘fywyd domestig’ Fictoraidd. Yn newydd i 2005 mae’r Arddangosiad Dodrefn Fwyta Ystafell Glantorfaen sydd wedi ei hadnewyddu ac sy’n cynnwys cyfleusterau sain, goleuo, tafluniadau a delweddaeth gyffyrddol newydd.

Mae Galeri Barker, yn yr amgueddfa, yn adeiladu enw da yn gyflym iawn ar gyfer ei harddangosiadau celfyddyd gain, gerfluniol a ceramig ac mae’r ardal 'Caffi Celf' bach yn siawns reolaidd ar gyfer arddangosiadau ‘gwerthu’ i artistiaid lleol. ACW Principality Collectorplan ar gael.

Mae Llyfrgell ac Archif Dobell-Moseley ar gael ar gyfer ymchwil i’r ardal a’i bobl. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys llogi ystafelloedd ar gyfer cynadleddau/sesiynau hyfforddiant a grwpiau cymunedol, yn ogystal â rhaglen o weithdai i ysgolion a dysgu gydol oes.

Dyma flas yn unig o beth sydd i’w wneud a’i weld yn yr Amgueddfa – mae llawer mwy i chi fwynhau!

Oriau ymweld a chostau mynediad

Ar agor trwy’r flwyddyn, heblaw amser byr dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Datganiad Mynediad:

Mae holl gyfleusterau, gwasanaethau, ystafelloedd a galerïau cyhoeddus Amgueddfa Pont-y-pŵl ar gael i bawb – mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu rampiau, rheiliau, seddi ac yn cydymffurio’n llawn â safonau’r DDA. Mae arwyddion a thipyn o ddehongliad yn Saesneg a Chymraeg yn Braille.

Amseroedd Agor yr Amgueddfa

Dydd Llun - Gwener 10.00 a.m. – 5.00 p.m
Dydd Sadwrn - Sul 2.00 – 5.00 p.m
Sylwch fod drysau’r amgueddfa’n cau am 4.30pm

Mae mynediad AM DDIM ar ddydd Mercher a dydd Sul. Ar ddyddiau eraill mae tal isel am fynediad, ond mae mynediad am ddim i ddalwyr cerdyn Llyfrgell Torfaen ac i aelodau’r Gymdeithas Amgueddfeydd.

Torfaen Tourism Association